Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Hydref 2013
Adroddiad ar yr amserlen ar gyfer ystyried Bil Rheoli Ceffylau
(Cymru)
1. Ar 14 Hydref 2013, cafodd Bil Rheoli Ceffylau (Cymru) ei gyflwyno yn y Cynulliad.
2. Ar 24 Medi 2013, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 26.9, i gyfeirio'r Bil at y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ond cytunodd i hepgor ystyriaeth Cyfnod 1 gan bwyllgor.
3. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylid cwblhau trafodion Cyfnod 2 erbyn 15 Tachwedd 2013, ar yr amod bod y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil.